Toglo gwelededd dewislen symudol

Newyddion

Dilynwch Ni

Facebook (Yn agor ffenestr newydd)                             Twitter (Yn agor ffenestr newydd)                                YouTube (Yn agor ffenestr newydd)

Diwrnod recriwtio Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn Y Trallwng

Hoffech chi gael swydd werth chweil sy'n helpu cefnogi pobl yn eich cymuned leol. Os felly, beth am bicio draw i ddigwyddiad taro heibio'r mis nesaf i ddysgu ynghylch gweithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.

Perchennog siop melysion yn cael ei erlyn gan Safonau Masnach

Cafodd perchennog siop melysion ei erlyn gan Gyngor Sir Powys ar ôl iddo werthu bariau siocled gyda'r enw 'Wonka" arnynt ond heb fod a'r wybodaeth alergenau yn y fformat cywir arnynt. Costiodd hyn yn ddrud iddo wedi iddo dderbyn dirwy o dros £10,000.

Dysgwyr yn dathlu canlyniadau Lefel A a chymwysterau Lefel 3

Mae'r cyngor sir heddiw (dydd Iau 17 Awst) wedi llongyfarch dysgwyr Powys ar eu cyraeddiadau ar ôl derbyn canlyniadau Lefel A a chymwysterau Lefel 3

Dirwy i breswyliwr o'r Drenewydd am ollwng sbwriel mewn safle ailgylchu lleol

Mae preswyliwr o ogledd Powys wedi derbyn dirwy o £400 am ollwng bagiau o sbwriel yn y banc ailgylchu cardfwrdd yn y safle ailgylchu cymunedol lleol ym Maes Parcio Lôn Gefn, yng nghanol dref y Drenewydd.

Gyrrwch yn ddiogel ar ffyrdd Powys

Mae staff priffyrdd Cyngor Sir Powys yn gorfod delio gyda nifer cynyddol o yrwyr yn gyrru trwy oleuadau coch dros dro, yn anwybyddu arwyddion stopio, ac yn goryrru drwy waith ffordd. Nid yn unig y mae'r ymddygiad hwn yn anghyfreithlon, ond mae hefyd yn rhoi'r timau priffyrdd sy'n gweithio'n galed o dan fygythiad o gael anaf difrifol.

Angen barn ar fesurau diogelwch oedd ar waith yn ystod wythnos Sioe Frenhinol Cymru

Lansiwyd arolwg am y mesurau diogelwch a oedd ar waith yn ystod Sioe Frenhinol Cymru yn Llanelwedd eleni.

Dal i fod amser i ddweud eich dweud am yr Adolygiad Hamdden Powys

Mae'r Cyngor Sir wedi dweud bod dal i fod amser i ddweud eich dweud am Adolygiad Hamdden Powys.

Sganio|Ailgylchu|Gwobr yn dechrau talu yn ôl!

Mae cannoedd o breswylwyr Aberhonddu eisoes wedi dychwelyd ac ailgylchu miloedd o gynhwysyddion diod drwy dreial Sganio|Ailgylchu|Gwobr ac ennill 10c iddynt eu hunain bob tro.

Angen Gwestywyr Llety â Chymorth

Mae'r cyngor yn annog trigolion Powys a allai helpu i lunio a chefnogi bywyd person ifanc i ystyried dod yn westywyr fel rhan o raglen bwysig

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu