Newyddion
Dewch i Fwynhau Noson Tân Gwyllt eco-gyfeillgar
Mae Noson Tân Gwyllt ar y gorwel ac anogir preswylwyr i gadw'n ddiogel, bod yn gyfrifol a mwynhau'r dathliadau'n gynaliadwy eleni
Aelod wedi'i geryddu gan y Pwyllgor Safonau
Mae cynghorydd sir ym Mhowys a ymddangosodd gerbron Pwyllgor Safonau Cyngor Sir Ceredigion am dorri'r Cod Ymddygiad wedi ei geryddu
Gwaith i greu hwb aml-asiantaethol newydd ar gyfer Aberhonddu wedi'i gwblhau
Mae gwaith i droi canolfan alwadau segur yn Aberhonddu yn swyddfeydd i Gyngor Sir Powys ac eraill, fel rhan o hwb aml-asiantaethol newydd, wedi'i gwblhau.
A oes gennych gwestiwn am wasanaethau'r cyngor?
Mae pobl sy'n byw, gweithio neu'n astudio ym Mhowys yn cael eu gwahodd i gyflwyno cwestiwn i gyfarfod llawn nesaf y cyngor sir ar ddydd Iau 5 Rhagfyr
Mynd yn WYRDD dros Galan Gaeaf!
Mae bron yn noson Galan Gaeaf, ond mae'n adeg i frawychu eich ffrindiau, nid y blaned! Mae digon o ailgylchu i'w wneud adeg Calan Gaeaf a sawl ffordd y gallwch leihau'r swm arswydus o wastraff sy'n cael ei greu o ddathliadau dychrynllyd.
A oes gennych brosiect twristiaeth werdd sydd angen ei ariannu?
Mae sefydliadau sydd â chynlluniau ar gyfer gwelliannau i seilwaith twristiaeth ar raddfa fach werdd ym Mhowys yn cael eu hannog i gysylltu â'r cyngor sir.
Dewch i Siarad: Byw ym Mhowys
Mae gan breswylwyr gyfle i rannu eu barn ar fyw ym Mhowys i helpu i lunio cynlluniau a darparu gwasanaethau yn y dyfodol, meddai'r cyngor sir.
Gwaith clirio'n digwydd wrth i ffyrdd Powys barhau i gael eu heffeithio gan law trwm diweddar
Mae'r cyngor sir wedi dweud bod y glaw trwm a fu ym Mhowys yn gynharach yr wythnos hon yn parhau i gael effaith ar ffyrdd
Gwrthod System Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy
Mae'r newid i system Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy a newid i'r ffordd y mae pobl yn pleidleisio yn etholiadau lleol Cyngor Sir Powys wedi ei wrthod.
4 prosiect yn cael £476k i hybu sgiliau rhifedd oedolion
Mae pedwar prosiect ym Mhowys wedi derbyn cymorth gan y Gronfa Ffyniant Gyffredin gwerth cyfanswm o £476,000 yn ystod yr wyth mis diwethaf i helpu pobl i reoli eu harian a gwella eu llesiant.
