Newyddion
Egwyl hirach i Ganolfannau Hamdden
Bydd canolfannau hamdden ym Mhowys yn cael egwyl hirach dros y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd, gyda rhai'n cau tan ddiwedd mis Mawrth er mwyn mynd i'r afael â chostau cynyddol ynni.
Ysgol Uwchradd Aberhonddu
Cafwyd cadarnhad gan y cyngor sir y bydd tîm o uwch swyddogion addysg yn gweithio gydag ysgol uwchradd ym Mhowys yn dilyn arolwg siomedig gan Estyn
Cymeradwyo Cynllun Canolbarth Cymru ar gyfer y Gronfa Ffyniant Gyffredin
Yn dilyn cyhoeddiad diweddar Llywodraeth y DU ynglŷn â Chronfa Ffyniant Gyffredin y DU (UKSPF), mae'r cynllun buddsoddi rhanbarthol ar gyfer Canolbarth Cymru wedi cael cymeradwyaeth ffurfiol
Cysylltiadau â band eang gwibgyswllt yn y flwyddyn newydd ar gyfer tri chynllun ym Mhowys
Bydd trigolion Powys sydd wedi ymuno â thri chynllun band eang cymunedol - Llanfan Fawr a Llanwrthwl, Aberedw a Glascwm, a Dwyriw a Manafon - yn cael eu gwibgysylltiadau ffibr yn y flwyddyn newydd.
Casgliadau ailgylchu a sbwriel dros y Nadolig
Bydd casgliadau gwastraff ac ailgylchu yn symud ymlaen ddiwrnod yn ystod wythnos y Nadolig, ond byddant yn digwydd fel yr arfer dros ŵyl banc y Flwyddyn Newydd.
Gweledigaeth ar gyfer y Dyfodol - rydym am gael eich barn
Caiff preswylwyr Powys eu hatgoffa mai dim ond rhai dyddiau sydd ganddynt i gynnig sylwadau ar y weledigaeth newydd ar gyfer y dyfodol - Cryfach Tecach Gwyrddach.
Sesiynau galw heibio Cysylltu Bywydau
Bydd tair sesiwn galw heibio yn cael eu cynnal i ddod o hyd i ofalwyr newydd sy'n gallu cefnogi oedolion sy'n agored i niwed i fyw bywydau ffyniannus ac annibynnol
Lansio cyfeirlyfr mannau cynnes
Mae cyfeirlyfr sy'n rhestru llefydd a all gynnig croeso cynnes i bobl Powys y gaeaf hwn wedi cael ei lansio gan y cyngor sir
Canolfan Addysg Cychwyn Newydd yn derbyn achrediad am ddiogelwch ar-lein
Mae lleoliad addysg yn ne Powys wedi arddangos ei ymroddiad i gadw plant a phobl ifanc yn ddiogel ar-lein drwy gwblhau rhaglen hyfforddi diogelwch ar-lein gynhwysfawr
Cais i drigolion helpu'r cyngor i ddod o hyd i bobl sy'n cysgu ar y stryd ym Mhowys
Mae cais wedi cael ei wneud gan y cyngor am help gan drigolion Powys i ddod o hyd i unrhyw un a allai fod yn cysgu ar y stryd yn y sir fel y gellir rhoi cymorth a chefnogaeth iddynt