Newyddion
Cyhoeddi Cabinet newydd
Heddiw, cyhoeddodd Arweinydd newydd Cyngor Sir Powys, y Cynghorydd James Gibson-Watt, aelodaeth ei gabinet newydd a'u meysydd cyfrifoldeb.
Gweini bwyd diogel dros Ŵyl y Banc
Dim ond naw diwrnod sydd i fynd tan penwythnos hir Gŵyl y Banc, felly os ydych chi'n bwriadu dathlu ym Mhowys a ddim yn siwr lle i ddechrau, mae Asiantaeth Safonau Bwyd a Chyngor Sir Powys yma i helpu.
Grantiau er mwyn creu gwarchodfeydd natur ym Mhowys
Mae gwahoddiad i grwpiau cymunedol, sefydliadau gwirfoddol, elusennau, ysgolion a sefydliadau eraill i wneud cais am arian grant i greu mannau natur yn yr ardal leol.
Gwobrau Gwaith Diogelu yn cydnabod ymroddiad gweithwyr diogelu proffesiynol
Cafodd ymroddiad, cadernid a gwaith caled ein gweithwyr diogelu proffesiynol ei gydnabod fel rhan o seremoni wobrwyo ranbarthol.
Ailgylchu fel arfer dros benwythnos y jiwbilî
Ni fydd gwyliau banc y Jiwbilî'n effeithio o gwbl ar wasanaeth ailgylchu a chasglu sbwriel, gyda'r gwaith yn mynd yn ei flaen fel arfer ar ddydd Iau 2ail a dydd Gwener 3ydd Mehefin.
Dweud eich dweud ar ddatblygu hybiau cymunedol yn llyfrgelloedd Powys
Mae Gwasanaeth Llyfrgelloedd Powys yn cynnal ymchwil ar sut y byddai'n bosibl helpu trigolion i ddefnyddio technoleg a gwasanaethau digidol, trwy ddatblygu hybiau cymunedol a fyddai'n cynnig cymorth a lle i weithio o bell.
'Bydd cynnal y Daith Merched yn cyflwyno hwb economaidd sylweddol i Bowys'
Disgwylir y bydd ymweliad cyntaf erioed y Daith Merched i'r Trallwng ar ddydd Iau 9 Mehefin yn arwain at nifer o fanteision i'r ardal, gan gynnwys hwb economaidd.
Ffair Swyddi De Powys
Bydd cyfle i drigolion sy'n byw yn ne'r sir ac yn chwilio am waith ddod i Ffair Swyddi De Powys yn Aberhonddu, dydd Mercher 25 Mai rhwng 9.30am - 1 pm. Yno bydd cyfle i gwrdd â nifer o ddarpar gyflogwyr a fydd yn dangos unrhyw swyddi gwag sydd ganddynt a chyfloedd am yrfa.
Allai eich neuadd bentref neu ganolfan gymuned elwa o fuddsoddiad digidol?
Dyma wahoddiad i grwpiau sy'n gyfrifol am nifer o fannau cyfarfod Powys i wneud cais am grant a allai eu helpu i gynnig digwyddiadau digidol, yn ogystal â rhai wyneb yn wyneb.
Pythefnos Gofal Maeth
Mae'r Pythefnos Gofal Maeth hwn (9-22 Mai) yn dathlu'r gwahaniaeth y mae gofalwyr maeth wedi'i wneud i fywydau plant a phobl ifanc.