Rhaglen Ysgolion y 21ain Ganrif

Mae Rhaglen Addysg ac Ysgolion yr 21ain Ganrif Cyngor Sir Powys yn golygu rhaglen fuddsoddi gwerth £200m i ddarparu cyfleusterau addysgol a chymunedol newydd sbon ym Mhowys. Prif nod y rhaglen yw:
- lleihau nifer yr adeiladau ysgol sydd mewn cyflwr gwael
- lleihau lleoedd gwag
- lleihau costau rhedeg er mwyn gwneud yn fawr o'r adnoddau sydd ar gael i wella canlyniadau i ddysgwyr
- mynd i'r afael â galw penodol am lefydd cyfrwng Cymraeg ac addysg ffydd.
Ariennir y rhaglen hon ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru a Chyngor Sir Powys.