Newyddion

A oes angen cymorth arnoch i ehangu eiddo masnachol?
Mae Rhaglen Safleoedd ac Eiddo Bargen Twf Canolbarth Cymru yn cyhoeddi arolwg er mwyn deall yn well gynlluniau busnesau ar draws y rhanbarth ar gyfer tyfu yn y dyfodol a'u hangen am eiddo masnachol

Cabinet i ystyried adroddiad gwrthwynebu iaith Ysgol Bro Caereinion
Gallai cynlluniau sy'n torri tir newydd i symud ysgol bob oed yng Ngogledd Powys ar hyd y continwwm ieithyddol fel ei bod hi yn y pen draw yn Ysgol cyfrwng Cymraeg, gael eu gweithredu os fydd Cabinet yn rhoi sêl bendith i'r cynlluniau yr wythnos nesaf, dywedodd y cyngor sir

Cyflwyno cais cynllunio ar gyfer adeilad newydd Ysgol Bro Hyddgen
Mae Cyngor Sir Powys wedi cyhoeddi bod cais cynllunio i adeiladu adeilad newydd ar gyfer ysgol bob oed ym Machynlleth wedi cael ei gyflwyno

Troseddau iechyd anifeiliaid yn costio £13,000 i ddyn o Bowys
Mae cyfres o droseddau iechyd anifeiliaid, gan gynnwys achosi dioddefaint dianghenraid i anifail, wedi costio £13,000 i ddyn o ogledd Powys, ar ôl iddo gael ei erlyn gan y cyngor sir

Sefydliadau'r celfyddydau i rannu grant o £675,000 gan y Gronfa Ffyniant Gyffredin
Bydd deg sefydliad yn elwa o raglen ariannu grant gwerth £675,000 a grewyd i gefnogi'r celfyddydau a'r diwydiannau creadigol, meddai'r cyngor sir

Partneriaeth Gororau Ymlaen yn llunio cynigion am y dyfodol
Mae Partneriaeth Gororau Ymlaen wedi symud yn gyflym ers ei lansio ym mis Tachwedd 2023

Penodi Cadeirydd newydd ar gyfer Cyngor Sir Powys
Mae cynghorydd sir o Meifod wedi ei benodi yn Gadeirydd newydd Cyngor Sir Powys

Y Gwasanaeth Cyngor Ariannol wedi helpu trigolion Powys i hawlio £3.2m ychwanegol mewn budd-daliadau
Yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf (2023/24) cafodd trigolion Powys eu helpu i hawlio £3.28 miliwn ychwanegol mewn budd-daliadau yr oedd ganddynt hawl iddynt, diolch i'r cyngor sir.

Profiad gwaith gyda chyflog
Mae'r rhai sy'n chwilio am swyddi neu sydd am ennill sgiliau newydd yn cael cynnig y cyfle i wneud cais am gyfleoedd profiad gwaith gyda chyflog am chwe mis.

Sophia yn rhannu rysáit ei theulu maeth mewn llyfr coginio newydd sy'n cael ei gefnogi gan enwogion.
Yn eu llyfr newydd - Dewch â rhywbeth at y bwrdd - a gyhoeddwyd yr wythnos hon gan Faethu Cymru, amlygir y pethau syml y gall ofalwyr eu cynnig - fel sicrhau pryd o fwyd rheolaidd, amser gyda'r teulu o amgylch y bwrdd, a chreu hoff brydau bwyd newydd.