Newyddion
Mynd yn WYRDD dros Galan Gaeaf!
Mae bron yn noson Galan Gaeaf, ond mae'n adeg i frawychu eich ffrindiau, nid y blaned! Mae digon o ailgylchu i'w wneud adeg Calan Gaeaf a sawl ffordd y gallwch leihau'r swm arswydus o wastraff sy'n cael ei greu o ddathliadau dychrynllyd.
A oes gennych brosiect twristiaeth werdd sydd angen ei ariannu?
Mae sefydliadau sydd â chynlluniau ar gyfer gwelliannau i seilwaith twristiaeth ar raddfa fach werdd ym Mhowys yn cael eu hannog i gysylltu â'r cyngor sir.
Dewch i Siarad: Byw ym Mhowys
Mae gan breswylwyr gyfle i rannu eu barn ar fyw ym Mhowys i helpu i lunio cynlluniau a darparu gwasanaethau yn y dyfodol, meddai'r cyngor sir.
Gwaith clirio'n digwydd wrth i ffyrdd Powys barhau i gael eu heffeithio gan law trwm diweddar
Mae'r cyngor sir wedi dweud bod y glaw trwm a fu ym Mhowys yn gynharach yr wythnos hon yn parhau i gael effaith ar ffyrdd
Gwrthod System Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy
Mae'r newid i system Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy a newid i'r ffordd y mae pobl yn pleidleisio yn etholiadau lleol Cyngor Sir Powys wedi ei wrthod.
4 prosiect yn cael £476k i hybu sgiliau rhifedd oedolion
Mae pedwar prosiect ym Mhowys wedi derbyn cymorth gan y Gronfa Ffyniant Gyffredin gwerth cyfanswm o £476,000 yn ystod yr wyth mis diwethaf i helpu pobl i reoli eu harian a gwella eu llesiant.
5 prosiect yn cael 750k i hybu sgiliau a rhagolygon am swyddi
Mae pum prosiect ym Mhowys wedi derbyn cymorth gan y Gronfa Ffyniant Gyffredin sydd werth cyfanswm o £750,000 yn ystod yr wyth mis diwethaf i helpu pobl i ddod o hyd i waith neu sicrhau gwell swyddi.
7 prosiect yn cael £1.85m i helpu busnesau i ehangu
Mae saith prosiect ym Mhowys wedi derbyn cymorth gan y Gronfa Ffyniant Gyffredin gwerth cyfanswm o £1.85 miliwn yn ystod yr wyth mis diwethaf i helpu i hybu buddsoddiad busnes a chreu swyddi.
Dymchwel fflatiau er mwyn adeiladu cartrefi cyngor newydd
Bydd cynlluniau cyffrous i adeiladu cartrefi cyngor newydd yn cyrraedd carreg filltir bwysig yn ddiweddarach y mis hwn pan fydd gwaith i ddymchwel pedwar bloc o fflatiau cyfredol yn dechrau, meddai'r cyngor sir
Mae hi bellach yn orfodol i gofrestru eich adar
Mae angen i bawb sy'n cadw adar ym Mhowys gofrestru gyda'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) ar ôl iddo ddyfod yn ofyniad cyfreithiol yn gynharach y mis hwn, meddai'r cyngor sir
