Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth i Deuluoedd a Dysgwyr

Adnoddau defnyddlol i deuluoedd a dysgwyr ym Mhowys 
Mae'r Tasglu Tlodi Plant wedi creu llyfryn o adnoddau defnyddiol i deuluoedd a dysgwyr ym Mhowys.Nod y llyfryn hefyd yw cefnogi gweithwyr proffesiynol wrth gyfeirio teuluoedd at gymorth ac mae wedi'i ddylunio fel y gellir defnyddio tudalennau unigol fel posteri neu mewn cylchlythyrau ysgol ac ati.
Adnoddau defnyddiol i deuluoedd a dysgwyr ym Mhowys (PDF) [1MB]

  • Budd-daliadau a Gwaith: Gwefan annibynnol yn rhoi gwybodaeth am gymhwyster ar gyfer budd-daliadau 
  • Comisiynydd Plant Cymru - Eu gwaith yw dweud wrth bobl pam mae hawliau plant mor bwysig, ac i edrych ar sut mae penderfyniadau a wneir gan gyrff cyhoeddus yng Nghymru, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, yn effeithio ar hawliau plant. 
  • Cyngor ar Bopeth: Gwybodaeth gynhwysfawr ar eich hawliau 
  • Dewis Cymru: Dewis Cymru yw'r lle am wybodaeth ar lesiant yng Nghymru. Mae ganddynt wybodaeth a all eich helpu chi i feddwl am yr hyn sy'n cyfrif i chi, ynghyd â gwybodaeth am sefydliadau a gwasanaethau lleol a all helpu!!
  • Blynyddoedd Cynnar Cymru: Blynyddoedd Cynnar Cymru - Ers 1961 Blynyddoedd Cynnar Cymru fu'r sefydliad ymbarél mwyaf sy'n cefnogi ystod o wasanaethau aelodaeth cynhwysfawr i'r sector Blynyddoedd Cynnar yng Nghymru. Eu prif weithgaredd yw gwella datblygu ac addysgu plant cyn oed ysgol yng Nghymru trwy annog rhieni i ddeall a darparu ar gyfer eu hanghenion trwy ddarpariaeth cyn ysgol a gofal plant o ansawdd uchel.
  • Cronfa'r Teulu: Darparwr grantiau i deuluoedd ar incwm isel sy'n magu plant a phobl ifanc sydd â salwch difrifol neu anabledd 
  • Hwb Cymru : Dolen i gael mynediad at y Cwricwlwm i Gymru a phecynnau cymorth a deunyddiau addysgol am ddim
  • Mind Cymru: Yn darparu cyngor a chefnogaeth i rymuso unrhyw un sy'n profi anhawster iechyd meddwl
  • Llywodraeth Cymru: Addysg a Sgiliau:Yn darparu gwybodaeth ar Anghenion Addysgol Arbennig, y Cwricwlwm ac Asesu, Cymwysterau ac addysg a sgiliau Ôl-16.

 

Dogfennau Defnyddiol:

Comisiynydd Plant Cymru: Cynllun ar gyfer Pob Plentyn a Pherson Ifanc, 2019-2022

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu