Newyddion

Datgloi £11.8m yn rhagor ar gyfer Bargen Twf Canolbarth Cymru wrth i'r prosiect cyntaf ddwyn siâp
Mae llywodraethau'r DU a Chymru wedi cadarnhau bod £11.8m o gyllid wedi'i ryddhau i Ganolbarth Cymru fel rhan o becyn buddsoddi i roi hwb i economi'r rhanbarth.

A yw Powys yn cyfateb â'ch uchelgeisiau economaidd?
Gofynnir i fusnesau sydd am ehangu neu adleoli i Bowys ond na allant ddod o hyd i safle neu adeilad addas sy'n diwallu eu hanghenion, roi gwybod i'r cyngor.

Sefydliadau'n rhannu grant o £30,000 i helpu i fynd i'r afael â thlodi plant
Mae dros 35 o sefydliadau ledled Powys wedi rhannu grant gwerth £30,000 i helpu i gyflwyno ystod o weithgareddau a digwyddiadau i gefnogi teuluoedd a phlant sy'n profi tlodi neu sy'n cael eu heffeithio gan yr argyfwng costau byw

Cabinet i ystyried y newyddion diweddaraf am Bartneriaeth Bwyd Cynaliadwy
Bydd y cabinet yn cael ei ddiweddaru ar waith parhaus Bwyd Powys Food, Partneriaeth Bwyd Cynaliadwy Powys, yn ôl y cyngor sir.

Cymeradwyo estyniad cyllid ar gyfer prosiect adfer camlesi
Mae prosiect gwerth £14 miliwn i adfer Camlas Trefaldwyn wedi cael estyniad o 11 mis gan Lywodraeth y DU.

Cyflwyno Gwobrau Nofio Cymru yng Nghanolfannau Freedom Leisure ym Mhowys
Roedd yr ymddiriedolaeth hamdden yn llwyddiannus mewn dau gategori, Darparwr y Flwyddyn ar gyfer Dysgu Nofio a'r Wobr am Fenter Cynaliadwyedd

Datblygu fframwaith newydd i drawsnewid profiad y cwsmer
Datblygwyd fframwaith i helpu i sicrhau profiad ardderchog i gwsmeriaid am y tro cyntaf gan Gyngor Sir Powys

Datgelu cynlluniau Trawsnewid Addysg ar gyfer Ysgol Calon Cymru
Mae cynlluniau uchelgeisiol gan y cyngor sir i drawsnewid addysg yng nghanol Powys, a allai weld ysgol cyfrwng Cymraeg newydd i bob oed yn cael ei sefydlu yn ogystal â buddsoddiad sylweddol mewn adeiladau dwy ysgol, i gael eu hystyried gan y Cabinet yn ddiweddarach y mis hwn

Mwy o gyflenwyr yn gallu cael mynediad at gymorth torri carbon sydd wedi ennill gwobrau
Bellach gall mwy o gyflenwyr nwyddau a gwasanaethau i Gyngor Sir Powys gael cyngor pwrpasol ar leihau eu hallyriadau carbon.

Mae Gwanwyn Glân Cymru yn dychwelyd i Bowys
Mae cymunedau ym Mhowys yn cael eu hannog i ymuno ag ymgyrch genedlaethol 'Gwanwyn Glân Cymru 2025' a helpu i godi'r sbwriel sy'n effeithio ar ein hamgylchedd lleol.