Newyddion
Y cyngor yn ennill gwobr caffael gwyrdd, unwaith eto!
Mae ymdrech i dorri ôl troed carbon Cyngor Sir Powys drwy helpu ei gyflenwyr i dorri eu hôl troed hwythau, wedi ennill gwobr genedlaethol - am yr ail flwyddyn yn olynol.
Sesiynau marchnata digidol am ddim wedi'u trefnu ar gyfer sectorau celfyddydol a diwylliannol
Mae sesiynau hyfforddi marchnata digidol am ddim wedi cael eu trefnu gan Gyngor Sir Powys i helpu pobl yn y sectorau celfyddydol, diwylliant, dysgu a threftadaeth i hysbysebu eu digwyddiadau
Dweud eich dweud ar gynlluniau tai ar gyfer Llanfyllin
Bydd cyfle gan drigolion sy'n byw yn Llanfyllin i ddweud eu dweud ar gynlluniau ar gyfer datblygiad tai arfaethedig yn y dref, meddai Cyngor Sir Powys
Adolygiad o Wasanaethau Hamdden
Mae Cyngor Sir Powys wedi dweud bod angen ail-feddwl sut y darperir gwasanaethau hamdden ym Mhowys dros y blynyddoedd nesaf i ddiogelu'r ddarpariaeth ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Prosiect gwerth £1m i wella amddiffynfeydd llifogydd ar gyfer 100 o gartrefi
Bydd dros 100 o gartrefi ym Mhowys yn cael eu diogelu'n well rhag difrod dŵr erbyn diwedd eleni, diolch i gynllun Cydnerthedd yn erbyn Llifogydd gwerth £1 miliwn.
Dymchwel cyn ysgol yn barod i adeiladu cartrefi cyngor newydd
Mae cynlluniau cyffrous i adeiladu cartrefi cyngor newydd yng ngogledd Powys wedi cyrraedd carreg filltir bwysig wrth i waith i ddymchwel hen ysgol ddechrau, meddai'r cyngor sir
Y Cymorth Cywir ar yr Adeg Gywir
Darparu'r cymorth cywir ar yr adeg gywir yw thema rhaglen eang sy'n cael ei chynnal ar draws Canolbarth a Gorllewin Cymru ar gyfer Wythnos Genedlaethol Diogelu, sy'n dechrau ar 11 Tachwedd 2024
Bydd pont newydd yn helpu i hybu niferoedd pysgod a lleihau'r perygl o lifogydd
Bydd gosod pont newydd dros Afon Senni ym Mhowys yn rhoi hwb i nifer y pysgod, lleihau'r perygl o lifogydd a gwella mynediad at ffyrdd i gymunedau lleol.
Ailystyried Adolygiad Meysydd Parcio
Mae aelodau cabinet Cyngor Sir Powys wedi cytuno i ailystyried canfyddiadau'r grŵp adolygu trawsbleidiol sydd â'r dasg o adolygu trefniadau parcio ceir y sir.
Y Cabinet i ystyried cynllun strategol ADY a Chynhwysiant newydd
Bydd y Cabinet y mis hwn yn ystyried cynllun cyffrous gyda'r nod o wella'r system addysg gynhwysol a theg i gefnogi anghenion holl ddysgwyr Powys yn well, gan gynnwys y rhai sydd ag anghenion dysgu ychwanegol