Toglo gwelededd dewislen symudol

Newyddion

Dilynwch Ni

Facebook (Yn agor ffenestr newydd)                             Twitter (Yn agor ffenestr newydd)                                YouTube (Yn agor ffenestr newydd)

Dirwy i ddyn o Bowys am droseddau lles anifeiliaid

Mae dyn o ogledd Powys wedi cael gorchymyn i dalu dros £3,400 yn dilyn amryw o achosion o dorri deddfwriaeth iechyd a lles anifeiliaid, ar ôl erlyniad llwyddiannus gan Gyngor Sir Powys

Ysgolion Powys yn disgleirio mewn cystadleuaeth treftadaeth genedlaethol

Mae wyth ysgol ym Mhowys wedi cael eu canmol gan y cyngor sir am eu llwyddiant mewn cystadleuaeth genedlaethol sy'n ysbrydoli pobl ifanc i archwilio a chyflwyno hanes a threftadaeth gyfoethog Cymru

Darparwraig Llety â Chymorth yn grymuso pobl ifanc i fod yn annibynnol

Mae nifer o bobl ifanc a fu unwaith yn aros gyda Juliet wedi dychwelyd i rannu sut mae eu hamser gyda hi wedi eu grymuso i ffynnu yn y byd ehangach.

Canfod algâu gwyrddlas yn Llyn Llandrindod

Canfuwyd algâu gwyrddlas yn Llyn Llandrindod ac o ganlyniad mae Cyngor Sir Powys yn gofyn i bobl gyfyngu ar weithgareddau yna - yn enwedig ymdrochi yn y dŵr

Ffordd haws newydd o wneud cais ar gyfer hysbysiadau digwyddiadau dros dro

Bellach, mae gan bobl a sefydliadau sydd am gael caniatâd i gynnal digwyddiadau bach ar gyfer llai na 500 o bobl ym Mhowys, ffordd haws o wneud cais drwy wefan y cyngor sir.

Cabinet i ystyried cynnig i gau Ysgol Gynradd Llandinam

Bydd y Cabinet yn ystyried cynlluniau i ymgynghori ar gau ysgol gynradd fach yng ngogledd Powys yn ddiweddarach y mis hwn, meddai'r cyngor sir

Powys yn Adrodd ar Gynnydd a Heriau ar y Llwybr i Sero Net

Mae ffitiadau goleuadau LED a phaneli solarpv a osodwyd ar adeiladau'r cyngor sir ym Mhowys wedi helpu i dorri allyriadau carbon blynyddol o 113.96 tunnell a lleihau biliau ynni o ryw £130,000.

Tybaco a fêps anghyfreithlon wedi'u hatafaelu mewn ymgyrch aml-asiantaeth

Mae cynhyrchion tybaco a fêps anghyfreithlon wedi'u hatafaelu o dair siop gyfleustra ledled y sir fel rhan o ymgyrch aml-asiantaeth a gynhaliwyd gan Gyngor Sir Powys

Cyngor yn sicrhau mwy o lety i gadw pobl ifanc yn agosach at eu cartrefi

Bellach mae gan bobl ifanc bregus fwy o opsiynau i barhau i fyw'n agosach at eu cartrefi diolch i leoliadau lled-annibynnol a sicrhawyd ledled Powys.

Gwaith yn dechrau ar gynllun peilot tyfu llysiau 36 erw

Mae ffermwyr wedi dechrau gweithio ar dri llain newydd ger y Drenewydd i brofi a ellir defnyddio tir Powys i dyfu ffrwythau a llysiau yn amaethyddol ar raddfa fasnachol.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu