Newyddion
Adroddiad newydd yn amlygu bwlch sgiliau rheoli dŵr ledled y Gororau
Mae adroddiad newydd wedi tynnu sylw at fwlch sgiliau cynyddol mewn Rheoli Adnoddau Dŵr (RhAD) ledled Swydd Amwythig a Phowys ar adeg pan mae'r rhanbarth yn wynebu pwysau cynyddol yn sgil newid yn yr hinsawdd, twf yn y boblogaeth a gweithlu sy'n heneiddio
Dysgwyr yn ffynnu wrth i Estyn cydnabod addysgu sy'n gwella yn Ysgol Cefnllys
Mae adroddiad arolygiad newydd gan Estyn sy'n dangos bod dysgwyr yn Ysgol Cefnllys yn ffynnu mewn amgylchedd di-gynnwrf a chynhwysol, lle mae addysgu a chydberthynasau cryf sy'n gwella yn eu helpu i dyfu mewn hyder, annibyniaeth ac uchelgais wedi cael ei groesawu gan Gyngor Sir Powys
Darpariaeth 'trochi hwyr' cyfrwng Cymraeg i agor yn Ysgol Bro Caereinion
Bydd cyfle newydd i gefnogi pobl ifanc i ddod yn ddysgwyr dwyieithog hyderus yn dechrau yng ngogledd-ddwyrain Powys y flwyddyn nesaf, gyda chyflwyno darpariaeth 'trochi hwyr' cyfrwng Cymraeg pwrpasol yn Ysgol Bro Caereinion
Dyluniwch y poster swyddogol ar gyfer Tour de France 2027!
Gwahoddir myfyrwyr creadigol ym Mhowys, 16 oed a hŷn, i gyflwyno eu dyluniadau ar gyfer poster swyddogol Tour de France 2027, a fydd yn cael ei ddadorchuddio ym Mharis ym mis Hydref.
Lansio tudalennau gwe i gefnogi pobl ym Mhowys sydd wedi'u heffeithio gan ganser
Gall pobl sydd wedi'u heffeithio gan ganser ym Mhowys nawr gael mynediad at dudalennau gwe newydd ar gyfer y Rhaglen Gwella'r Daith Canser, sy'n dwyn ynghyd wybodaeth glir am gymorth lleol.
Mae eiliadau bach yn newid bywydau
Gall y tro cyntaf i blentyn chwerthin neu siarad yn agored am ei ddiwrnod deimlo fel eiliadau bach, ond i ofalwyr maeth ledled Cymru, maent yn arwyddion pwerus o ddatblygiad. Mae'r eiliadau hyn yn dangos bod plentyn yn dechrau teimlo'n ddiogel, yn gwella, ac yn teimlo ei fod yn cael ei garu.
Cyngor Sir Powys yn cadarnhau cyllid sefydlog a buddsoddiad parhaus ar draws y sir
Mae Cyngor Sir Powys wedi cadarnhau ei fod ar y llwybr cywir i gyflawni o fewn y gyllideb ar ddiwedd blwyddyn ariannol 2025/26, tra'n parhau i fuddsoddi miliynau o bunnoedd mewn ysgolion, ffyrdd, tai a chyfleusterau cymunedol ledled y sir
Cyngor Sir Powys yn ailadrodd dim goddefgarwch i gam-drin staff
Mae Cyngor Sir Powys yn atgoffa trigolion a defnyddwyr gwasanaeth na fydd camdriniaeth, bygythiadau, brawychu na thrais tuag at staff yn cael eu goddef
Cyhoeddi adroddiad arolygiad Estyn ar gyfer Ysgol Uwchradd Crughywel
Mae Ysgol Uwchradd Crughywel, sy'n gwasanaethu teuluoedd ar draws de Powys, wedi cael ei chydnabod gan Estyn am ei chydberthynasau cadarnhaol a'i diwylliant diogelu, ond dywedod yr arolygwyr fod angen gwelliant parhaus pellach ar draws sawl maes pwysig o waith yr ysgol
Cyfle tendro yn ailagor ar gyfer darpariaeth addysg Blynyddoedd Cynnar yn y Drenewydd
Mae cyfle wedi ailagor i ddarparwyr blynyddoedd cynnar profiadol i helpu i gwrdd â'r galw cynyddol am addysg cyn-ysgol yn ardal y Drenewydd, mae Cyngor Sir Powys wedi cyhoeddi
