Newyddion
Cadeirydd Llywodraethwyr Newydd wedi'i benodi yn Ysgol Robert Owen
Mae cynghorydd sir o'r Drenewydd wedi'i benodi'n Gadeirydd Llywodraethwyr ysgol arbennig y dref
Gwaith diogelwch i'w wneud ar gofebion simsan ym mynwentydd y cyngor
Cyn bo hir, bydd cofebion a nodwyd yn simsan yn ystod archwiliad o fynwentydd Cyngor Sir Powys yn cael eu gwneud yn ddiogel - naill ai drwy gael eu gosod yn wastad neu drwy eu diogelu â dulliau priodol eraill - er mwyn sicrhau bod y mannau hyn yn parhau i fod yn ddiogel i ymwelwyr
Rhybudd i rieni - doliau Labubu ffug ar gael ledled Powys
Mae mwy o deganau Labubu ffug wedi cael eu hatafaelu o siopau a stondinau marchnad ledled Powys, ychydig fisoedd ar ôl i dros 500 gael eu tynnu oddi ar y farchnad yn Sioe Frenhinol Cymru eleni, meddai'r cyngor sir
Adeiladu dyfodol dwyieithog - canolfan drochi newydd i agor yn Ne Powys
Bydd pennod newydd mewn addysg ddwyieithog yn dechrau yn Ne Powys fis nesaf, gyda lansiad canolfan drochi cyfrwng Cymraeg bwrpasol wedi'i chynllunio i helpu dysgwyr i bontio'n hyderus i addysg cyfrwng Cymraeg
Ymgynghoriad ar gyfer safle Sipsiwn a Theithwyr wedi'i ymestyn
Mae ymgynghoriad dros gynlluniau i ddod o hyd i safle newydd addas ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr yn ardal y Trallwng yn cael ei ymestyn oherwydd nifer y bobl sy'n dymuno gwneud sylwadau.
Cyngor yn ceisio aelod i wasanaethu ar y Pwyllgor Safonau
Mae'r cyngor wrthi'n chwilio am unigolyn arall i helpu Cyngor Sir Powys gynnal safonau aelodau'r Cyngor a'r cynghorau tref a chymuned leol
Y Cyngor yn ei gwneud hi'n haws ymgeisio am swyddi
Mae Cyngor Sir Powys wedi cyflwyno proses recriwtio newydd hawdd i unrhyw un sy'n ymgeisio am swyddi gyrru cerbydau nwyddau trwm (HGV).
Y Cyngor yn ystyried cau campws ysgol gynradd wrth i niferoedd y disgyblion ostwng
Gallai campws ysgol gynradd yn Ne Powys gau fel rhan o'r cynigion sy'n cael eu hystyried gan y cyngor sir
Y Cabinet i ystyried adroddiad ymgynghori Ysgol Calon Cymru
Gallai cynlluniau uchelgeisiol i drawsnewid addysg ym Mhowys, a allai weld ysgol newydd cyfrwng Cymraeg i bob oed yn cael ei sefydlu yn ogystal â buddsoddiad sylweddol mewn dau adeilad ysgol, gymryd cam yn nes os caiff argymhelliad i'r Cabinet ei gymeradwyo, meddai'r cyngor sir
Feirws y Tafod Glas wedi'i gadarnhau ym Mhowys - perchnogion da byw yn cael eu hannog i aros yn wyliadwrus
Mae'r perchnogion da byw ym Mhowys yn cael eu hannog gan gyngor y sir i aros yn wyliadwrus ac adrodd am unrhyw achosion a amheuir o glefyd y Tafod Glas ar ôl i dri achos gael eu cadarnhau yn y sir
