Newyddion
Wythnos Hinsawdd Cymru: Dyfarnu bron i £2m i 10 prosiect 'gwyrdd'
Mae deg prosiect fydd yn helpu Powys i chwarae ei rhan wrth fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd wedi derbyn bron i £2 filiwn o gyllid gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU (UKSPF).
Cais i drigolion helpu'r cyngor i ddod o hyd i bobl sy'n cysgu ar y stryd ym Mhowys
Mae cais wedi cael ei wneud gan y cyngor am help gan drigolion Powys i ddod o hyd i unrhyw un a allai fod yn cysgu ar y stryd yn y sir fel y gellir rhoi cymorth a chefnogaeth iddynt
Cyfle i drigolion pedair cymuned gael band eang gwibgyswllt
Mae'r cyngor sir wedi croesawu'r cyfle i fwy na 1,300 eiddo mewn pedair cymuned ym Mhowys gael mynediad at fand eang gwibgyswllt.
Sefydlu mynwent newydd y cyngor sir ym Machynlleth
Sefydlwyd mynwent newydd yng ngogledd Powys trwy gydweithio rhwng y cyngor sir a chyngor tref
Hwb i 11 o fanciau bwyd Powys
Mae un ar ddeg o fanciau bwyd ledled Powys wedi elwa o'r rownd ddiweddaraf o grantiau Cymorth Bwyd Uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru.
10 mlynedd ers iddi ddod yn ofynnol yn ôl y gyfraith i arddangos Sgoriau Hylendid Bwyd
Mae hi'n 10 mlynedd ers i Gymru arwain y ffordd fel y wlad gyntaf yn y DU i'w gwneud yn ofynnol yn ôl y gyfraith i arddangos sgoriau hylendid bwyd.
Cyfle i ysgolion cynradd ennill talebau drwy ailgylchu batris
Gallai disgyblion ysgolion cynradd Powys ennill siâr o'r £500 o dalebau i'w hysgol wrth ailgylchu cynifer o fatris ag y gallant.
Penodi contractwr i adeiladu datblygiad tai cyngor newydd
Cafodd contractwr ei benodi i adeiladu datblygiad tai newydd fforddiadwy yn y Drenewydd, cyhoeddodd Cyngor Sir Powys
Sesiynau cyngor i hybu twf economaidd
Bydd chwech o sesiynau cynghori yn cael eu cynnal yn nhrefi Powys dros y misoedd nesaf i helpu busnesau i ddatrys problemau a allai fod yn eu dal yn ôl.
Cyflwyno gwobrau mawreddog i'r ysgol
Bydd dwy wobr fawreddog a enillwyd gan brosiect adeiladu arloesol yn gynharach eleni yn cael eu harddangos mewn ysgol yn y Trallwng ar ôl cael eu cyflwyno i ddysgwyr a staff