Mynd yn ddi-bapur gyda'ch Treth y Cyngor a Threthi Busnes! Gweld pob bil a hysbysiad yn ddigidol unrhyw bryd. Cofrestrwch ar gyfer bilio di-bapurFy nghyfrif
Rydym nawr yn gallu anfon negeseuon testun at gwsmeriaid i'w hatgoffa pan fydd rhandaliad ar gyfer treth y cyngor yn hwyr. Dim ond cwsmeriaid sydd wedi rhoi eu rhifau ffôn symudol wrth gysylltu gydag adran dreth y cyngor drwy'r tudalennau ar-lein y byddwn yn anfon neges destun atynt. Byddwn yn nodi rhif Cyfeirnod Cyfrif Treth y Cyngor a'r swm sy'n ddyledus fel y gellir gwneud taliad drwy ddefnyddio ein cyfleusterau ar-lein, neu ein llinell dalu awtomatig.