Newyddion

Lleisiau ifanc yn arwain y ffordd yng Nghynhadledd Tasglu Tlodi Plant
Gwnaeth disgyblion Ysgol Golwg y Cwm argraff fawr yng nhrydydd Cynhadledd Flynyddol Tasglu Tlodi Plant Cyngor Sir Powys yr wythnos diwethaf, gan herio'r cyngor a'i bartneriaid i wneud mwy i fynd i'r afael â thlodi plant ar draws y sir

Anrhydeddu disgyblion Aberhonddu am geisiadau pwerus yng nghystadleuaeth 'Taith Ddiogel'
Mae chwe disgybl o'r Ganolfan Cychwyn Newydd yn Aberhonddu yn dathlu cyflawniad rhyfeddol ar ôl derbyn gwobrau a thystysgrifau mewn cystadleuaeth greadigol ranbarthol sy'n nodi Wythnos y Ffoaduriaid

Digwyddiadau galw heibio i'r rhai sydd â diddordeb mewn cael effaith gadarnhaol ar oedolion bregus ym Mhowys
Cynhelir digwyddiadau recriwtio galw heibio ar gyfer unrhyw un sydd â diddordeb mewn agor eu cartrefi i oedolion ym Mhowys sydd ag anableddau dysgu, anawsterau iechyd meddwl, neu oedolion hŷn fel rhan o Wythnos Cysylltu Bywydau 2025 (23 - 27 Mehefin).

Disgyblion Powys yn rhoi Cig Oen Cymru dan y sbotolau yn Nigwyddiad Defaid NSA Cymru 2025
Roedd disgyblion ysgol gynradd o Bowys wedi cymryd rhan flaenllaw yn nigwyddiad Defaid NSA Cymru 2025 eleni, gan arddangos eu creadigrwydd coginio mewn digwyddiad coginio ymarferol yn dathlu cig oen Cymru

Mae Pont Teithio Llesol y Drenewydd bellach ar agor
Mae'r bont teithio llesol hir-ddisgwyliedig yn y Drenewydd bellach ar agor i gerddwyr a beicwyr.

Rhwydwaith Trafnidiaeth Gyhoeddus Powys i gael ei uwchraddio
Mae Cyngor Sir Powys yn falch o gyhoeddi bod ei ymgynghoriad ac ymgysylltiad cyhoeddus llawn ar wasanaethau bysiau lleol wedi dod i ben yn llwyddiannus a bydd yn dyfarnu contractau saith mlynedd newydd ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus ledled y sir yn fuan.

Cannoedd o fusnesau'n derbyn cymorth rhyddhad ardrethi
Mae'r cyngor sir wedi dweud bod biliau ardrethi busnes cannoedd o fusnesau Powys yn y sectorau manwerthu, hamdden a lletygarwch wedi gostwng ar ôl gwneud cais am gynllun rhyddhad ardrethi

Dal i fod amser i ddweud eich dweud ar gynlluniau addysg uchelgeisiol ar gyfer canolbarth Powys
Mae amser o hyd i gyflwyno eich barn ar gynlluniau uchelgeisiol i drawsnewid addysg yng nghanolbarth Powys, a allai weld ysgol cyfrwng Cymraeg newydd bob oed yn cael ei sefydlu yn ogystal â buddsoddiad sylweddol mewn dau adeilad ysgol

Busnes yn paratoi ar gyfer cwmni sawna
Mae gwneuthurwr sawna yn bwriadu cynyddu cynhyrchiant ar ôl symud i safle newydd ym Mhowys sydd dair gwaith yn fwy na'i safle blaenorol.

900 o gartrefi i dderbyn llythyrau yn cynnig cymorth costau byw
Bydd bron i 900 o gartrefi ym Mhowys yn derbyn llythyrau yr wythnos nesaf gan y cyngor sir, yn cynnig cymorth iddynt gyda chostau byw cynyddol.