Newyddion
Gwelliannau gwerth £500k wedi'u cwblhau yng Nghanolfan Chwaraeon Llandrindod
Mae gwelliannau - gan gynnwys arwyneb newydd i gae 2G a chladin allanol ar y neuadd chwaraeon a fydd yn lleihau'r defnydd o ynni - wedi'u cwblhau yng Nghanolfan Chwaraeon Llandrindod.
Angen gwirfoddolwyr i helpu gyda chymal Tour de France ym Mhowys y flwyddyn nesaf
Mae angen gwirfoddolwyr i helpu gyda chymal y Tour de France ym Mhowys y flwyddyn nesaf (4 Gorffennaf 2027).
Cyngor Sir Powys yn Atgyfnerthu Goruchwyliaeth Arweinyddiaeth i Adfer Gwasanaethau
Mae Cyngor Sir Powys wedi cadarnhau trefniadau arweinyddiaeth cryfach o fewn cyfarwyddiaeth Lle, ochr yn ochr â chyfrifoldebau'r Cabinet wedi'u hadnewyddu, i wella goruchwyliaeth, ymateboldeb ac atebolrwydd ar draws gwasanaethau rheng flaen.
Cyhoeddi Amgueddfa Sir Faesyfed ymhlith amgueddfeydd gorau'r DU gan gyhoeddiad cenedlaethol
Mae Amgueddfa Sir Faesyfed yn Llandrindod wedi'i henwi ymhlith amgueddfeydd gorau'r DU gan The Times, gan gynnwys rhestr genedlaethol o naw lleoliad y mae'n rhaid ymweld â nhw.
Cymeradwyo cyllid pellach i gyflawni Prosiect Llynnoedd Cwm Elan
Mae cyllid pellach ar gyfer Prosiect Llynnoedd Cwm Elan wedi'i gymeradwyo gan Fwrdd Tyfu Canolbarth Cymru (19 Mai). Mae'r penderfyniad yn nodi cam pwysig ymlaen, gan alluogi cam nesaf y prosiect i ddechrau.
Cyngor Sir Powys yn mabwysiadu Siarter ar gyfer Hawliau Afon Gwy
Cyngor Sir Powys wedi cymeradwyo mabwysiadu'r Siarter ar gyfer Hawliau Afon Gwy, sy'n nodi cam sylweddol o ran diogelu ac adfer un o afonydd mwyaf eiconig y DU.
Seremoni torri tywarchen yn nodi dechrau'r gwaith o adeiladu ysgol newydd Pontsenni
Roedd rhawiau yn y ddaear yr wythnos hon wrth i seremoni torri tywarchen nodi dechrau swyddogol y gwaith o godi adeilad ysgol newydd, o'r radd flaenaf ar gyfer Ysgol GG Pontsenni.
Partneriaeth ranbarthol yn cymryd sedd wrth ford gron genedlaethol ar natur a thwf economaidd
Mae cynrychiolwyr o Bartneriaeth y Gororau Ymlaen wedi cymryd rhan mewn bord gron ar bolisiau cenedlaethol sy'n archwilio sut y gellir cyflawni natur a thwf economaidd gyda'i gilydd.
Cyllid a chymorth busnes er mwyn helpu busnesau yng Nghanolbarth Cymru i fabwysiadu technoleg LoRaWAN glyfar
Estynnir gwahoddiad i fusnesau ar draws Canolbarth Cymru i fanteisio ar gyllid newydd a chymorth arbenigol er mwyn eu helpu i fabwysiadu technolegau arloesol LoRaWAN (Rhwydwaith Ardal Eang Pellter Hir) er mwyn rhoi hwb i gynhyrchiant, fel rhan o brosiect LoRaWAN Tyfu Canolbarth Cymru.
Seremoni torri tywarchen yn garreg filltir bwysig i Ysgol newydd Neuadd Brynllywarch
Dathlwyd cam sylweddol ymlaen o ran trawsnewid addysg i ddysgwyr ym Mhowys yr wythnos hon, wrth i seremoni dorri tywarchen nodi dechrau'r gwaith o adeiladu adeilad ysgol newydd ar gyfer Ysgol Neuadd Brynllywarch.
