Newyddion
Cynnydd cadarnhaol i brentisiaethau
Rhoddwyd cychwyn o'r newydd i yrfa 21 o bobl eleni diolch i'r prentisiaethau a gafodd eu cynnig gan Gyngor Sir Powys.
Paneli solar a goleuadau LED yn helpu ysgolion a chanolfannau cymunedol i dorri biliau
Gosodwyd paneli solar a goleuadau LED mewn dwy ysgol ym Mhowys gyda chanolfannau cymunedol ynghlwm iddynt, a byddant yn cael eu gosod mewn pedair ysgol arall yn y Flwyddyn Newydd.
Gwobr ddiogelwch i bartneriaeth Sioe Frenhinol Cymru
Mae partneriaeth sy'n cefnogi diogelwch ymwelwyr yn ystod Sioe Frenhinol Cymru wedi ennill gwobr genedlaethol.
Lansio arolwg cyllideb
Gofynnir i bobl Powys, busnesau a defnyddwyr gwasanaethau rannu eu safbwyntiau gyda'r Cyngor fel rhan o'r broses gosod cyllideb.
Wythnos Hinsawdd Cymru: Pwyntiau gwefru cerbydau trydan yn dod i bedwar maes parcio arall ym Mhowys
Bydd pwyntiau gwefru cyflym i wefru cerbydau trydan yn cael eu gosod mewn pedair cymuned arall ym Mhowys, wedi i'r cyngor sir sicrhau cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru.
Wythnos Hinsawdd Cymru: Mae adnewyddu goleuadau stryd yn lleihau'r defnydd o ynni
Mae prosiect sy'n ceisio lleihau faint o ynni sydd angen I bweru goleuadai stryd Powys ar y trywydd iawn gyda mwy na chwarter yr arbedion arfaethedig eisoes wedi'u gwned.
Wythnos Hinsawdd Cymru: Cadarnhau ffigurau ailgylchu Powys
Mae data diweddaraf a gyhoeddwyd gan Ystadegau Cymru yn ystod Wythnos Hinsawdd Cymru 2023 yn cadarnhau fod Powys unwaith yn rhagor wedi rhagori ar darged ailgylchu statudol Llywodraeth Cymru sef 64%, gyda chyfradd ailgylchu ledled y sir o 68.1% ar gyfer 2022/23.
Casgliadau ailgylchu a gwastraff y Nadolig 2023
Cadarnhawyd y dyddiau casglu newydd ar gyfer casglu gwastraff ac ailgylchu dros gyfnod y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd.
Gweinidog yn ymweld â phrosiect ym Mhowys sy'n cefnogi iechyd meddwl plant
Bu'r Dirprwy Weinidog ar gyfer Iechyd Meddwl a Llesiant, Lynne Neagle yn siarad gyda theuluoedd a phobl ifanc yn Y Drenewydd ynghylch cymorth cynnar a chefnogaeth estynedig ar gyfer plant a phobl ifanc.
Cynlluniau Ysgol Bro Hyddgen i'w dangos mewn digwyddiad galw heibio
Gellir gweld cynlluniau cyffrous i adeiladu adeilad newydd i ysgol bob oed mewn digwyddiad galw heibio ym Machynlleth yn ôl y cyngor sir